Gwaharddiad ar gyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol

I13Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig: pŵer i ddiwygio

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Atodlen—

a

i ychwanegu cynnyrch at golofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1, neu i ddileu cynnyrch o’r golofn honno;

b

i ychwanegu esemptiad at golofn 2 o’r Tabl ym mharagraff 1, neu i ddileu esemptiad o’r golofn honno, neu i ddiwygio esemptiad yn y golofn honno;

c

i ychwanegu diffiniad at baragraff 2, neu i ddileu diffiniad o’r paragraff hwnnw, neu i ddiwygio diffiniad yn y paragraff hwnnw.

2

Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

a

awdurdodau lleol;

b

Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymwneud â hybu diogelu’r amgylchedd yng Nghymru;

c

y personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau cynhyrchwyr neu gyflenwyr cynhyrchion plastig untro yng Nghymru;

d

y personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau pobl sydd â nodwedd warchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15), ac y gall y rheoliadau gael effaith benodol arnynt am y rheswm hwnnw;

e

y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.