GorfodiLL+C

9Pŵer mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre‍ breswyl.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Cyn mynd i fangre o dan yr adran hon rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ddogfennol o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 7(2).

(5)At ddibenion yr adran hon ac adrannau 10 ac 11, ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 9 mewn grym ar 30.10.2023 gan O.S. 2023/1149, ergl. 2(g)