RHAN 1TROSOLWG

I11Trosolwg

1

Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

2

Mae’n cydgrynhoi deddfiadau a gynhwysir yn y canlynol neu a wneir odanynt—

3

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cadwraeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

a

cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol, a gynhelir gan Weinidogion Cymru,

b

rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig, ac

c

caffael henebion, gwarcheidiaeth henebion a diogelu henebion.

4

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cadwraeth adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

a

rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gynhelir gan Weinidogion Cymru,

b

rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig, ac

c

caffael a diogelu adeiladau.

5

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch ardaloedd cadwraeth, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer—

a

dynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardaloedd cadwraeth gan awdurdodau cynllunio,

b

rheolaethu gwaith ar gyfer dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth, ac

c

diogelu ac atgyweirio adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

6

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth atodol sy’n ymwneud â Rhannau 3 a 4, gan gynnwys—

a

darpariaeth ynghylch achosion gerbron Gweinidogion Cymru o dan y Rhannau hynny, gan gynnwys gwrandawiadau ac ymchwiliadau;

b

darpariaeth ynghylch dilysrwydd penderfyniadau a wneir o dan y Rhannau hynny a chywiro’r penderfyniadau hynny.

7

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer—

a

cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol;

b

rhestr o enwau lleoedd hanesyddol;

c

cofnodion amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal yng Nghymru.

8

Mae Rhan 7 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill a diddymiadau deddfiadau eraill.