Cynigion i ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr: ymgynghori a gwarchodaeth interimLL+C
5Ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestrLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig diwygio’r gofrestr—
(a)drwy ychwanegu heneb,
(b)drwy ddileu heneb, neu
(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb i ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3)—
(a)sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig, a
(b)sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.
(3)Y personau yw—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb,
(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, ac
(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol gan fod ganddynt wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.
(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)—
(a)pennu o fewn pa gyfnod y caniateir cyflwyno sylwadau, a
(b)yn achos cynnig i ychwanegu heneb neu i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o heneb—
(i)cynnwys datganiad o effaith adran 6 (gwarchodaeth interim), a
(ii)pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.
(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.
6Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r gofrestrLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 5(2) ynghylch cynnig i ddiwygio’r gofrestr—
(a)drwy ychwanegu heneb, neu
(b)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb drwy ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb.
(2)O ddechrau’r diwrnod a bennir o dan adran 5(4)(b)(ii) mae’r Ddeddf hon yn cael effaith—
(a)yn achos cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr, fel pe bai’r heneb yn heneb gofrestredig;
(b)yn achos cynnig i ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb, fel pe bai’r diwygiad wedi ei wneud.
(3)Cyfeirir yn y Rhan hon at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (2) fel “gwarchodaeth interim”.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi rhestr o’r henebion sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim, a
(b)darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 5(2) mewn cysylltiad â heneb o’r fath i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.
7Pan ddaw gwarchodaeth interim i benLL+C
(1)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(a) (cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr) i ben mewn perthynas â heneb—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio ag ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).
(2)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(b) (cynnig i ddiwygio cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â heneb) i ben mewn perthynas â heneb—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).
(3)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yw—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a
(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.
(4)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith gwarchodaeth interim yn dod i ben o dan is-adrannau (1)(b) a (2)(b).
8Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interimLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas â heneb oherwydd hysbysiad o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b).
(2)Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr heneb pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.
(3)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r heneb oherwydd y warchodaeth interim.
(4)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.