RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Adeiladau na fwriedir iddynt gael eu rhestru
I187Tystysgrif nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhestru adeilad
1
Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais unrhyw berson, ddyroddi tystysgrif sy’n datgan nad ydynt yn bwriadu rhestru adeilad.
2
Yn ystod y 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir y dystysgrif—
a
ni chaiff Gweinidogion Cymru restru’r adeilad na chyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru’r adeilad;
b
ni chaiff awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro mewn perthynas â’r adeilad.
3
Rhaid i geisydd am dystysgrif roi hysbysiad o’r cais i bob awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal ar yr un pryd ag y mae’n cyflwyno’r cais i Weinidogion Cymru.