RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Darpariaeth bellach ynghylch diogelu adeiladau rhestredig
I1147Camau ar gyfer diogelu adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi pwerau i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru i gymryd camau i sicrhau bod adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol, ac mewn cysylltiad â rhoi’r pwerau hynny.
2
Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu ar gyfer—
a
hysbysiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion adeiladau rhestredig sydd wedi mynd i gyflwr gwael gyflawni gwaith i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol (“hysbysiadau diogelu”);
b
apelau yn erbyn hysbysiadau diogelu;
c
troseddau am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau diogelu.
3
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—
a
datgymhwyso, neu gymhwyso neu atgynhyrchu gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon neu Ran 5 neu 7;
b
diwygio’r Rhan hon neu’r Rhannau hynny.
4
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.