RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau i Weinidogion Cymru
I1172Ffioedd am apelau
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddo dalu ffi i Weinidogion Cymru.
2
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
b
i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).
3
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—
a
gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi;
b
gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi i’w chyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo);
c
pennu amgylchiadau pan fo ffi i’w hepgor neu ei had-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);
d
pennu amgylchiadau pan nad oes ffi i’w thalu;
e
gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
I2173Penderfynu apêl gan berson a benodir
1
Mae apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddi i’w phenderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (yn hytrach na chan Weinidogion Cymru).
2
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
b
i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).
3
Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i apêl—
a
os yw’n apêl o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu
b
os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod yr apêl i’w phenderfynu ganddynt hwy yn hytrach na chan berson a benodir.
4
Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir odani sy’n darparu y caniateir i apêl gael ei gwneud i Weinidogion Cymru, neu fod rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.
5
Pan fo person a benodir yn penderfynu apêl, mae penderfyniad y person a benodir i’w drin fel pe bai’n benderfyniad gan Weinidogion Cymru.
6
Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenodiadau o dan is-adran (1) a chyfarwyddydau o dan is-adran (3)(b).