Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Y Goron

188Cynrychiolaeth buddiannau’r Goron a buddiannau’r Ddugiaeth mewn tir

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu sydd wedi ei awdurdodi i’w wneud at ddibenion Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon gan berchennog ar fuddiant mewn tir (gan gynnwys buddiant fel meddiannydd ar y tir yn unig) neu mewn perthynas â pherchennog o’r fath.

(2)I’r graddau y mae’r buddiant yn fuddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth, rhaid i’r peth gael ei wneud gan awdurdod priodol y Goron neu mewn perthynas â’r awdurdod hwnnw.

189Cyflwyno dogfennau i’r Goron

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron yn ofynnol neu wedi ei awdurdodi o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(2)Rhaid cyflwyno’r ddogfen i awdurdod priodol y Goron.

(3)Nid yw adrannau 205 a 206 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dulliau cyflwyno) yn gymwys i gyflwyno’r ddogfen.

190Camau gorfodi mewn perthynas â thir y Goron

(1)Ni chaiff awdurdod cynllunio gymryd cam gorfodi perthnasol mewn perthynas â thir y Goron heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

(2)Caiff awdurdod priodol y Goron roi cytundeb yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cam gorfodi perthnasol” yw unrhyw beth a wneir mewn cysylltiad â gorfodi gofyniad neu waharddiad a osodir gan neu o dan Ran 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(4)Mae’n cynnwys—

(a)mynd ar dir, a

(b)dwyn achos neu wneud cais.

(5)Ond nid yw’n cynnwys—

(a)dyroddi neu gyflwyno hysbysiad (er enghraifft hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop dros dro), neu

(b)gwneud gorchymyn (er enghraifft gorchymyn o dan adran 107 neu 115).