RHAN 6ASEDAU TREFTADAETH ERAILL A CHOFNODION
Parciau a gerddi hanesyddol
I1192Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o barciau a gerddi yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys, neu i ba raddau y dylid cynnwys, fel rhan o gofrestriad parc neu ardd—
a
unrhyw adeilad neu ddŵr sydd arno neu arni, sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi, neu
b
unrhyw dir sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr drwy—
a
ychwanegu cofnod,
b
dileu cofnod, neu
c
diwygio cofnod.
4
Cyn gynted ag y bo’n bosibl ar ôl diwygio’r gofrestr, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i’r personau a grybwyllir yn is-adran (5), a
b
yn achos unrhyw ddiwygiad o dan is-adran (3)(a) neu (c), gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig yn y gofrestr.
5
Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) yw—
a
pob perchennog a phob meddiannydd ar y parc neu’r ardd o dan sylw (gan gynnwys, os ydynt yn wahanol, berchnogion a meddianwyr unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2));
b
yr awdurdod cynllunio y mae’r parc neu’r ardd yn ei ardal (gan gynnwys, os yw’n wahanol, yr awdurdod cynllunio y mae unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2) yn ei ardal).
6
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at barciau a gerddi yn cynnwys—
a
mannau hamdden, a
b
unrhyw diroedd eraill sydd wedi eu dylunio (gan gynnwys tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio).
Enwau lleoedd hanesyddol
I2193Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o enwau lleoedd hanesyddol
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, a rhaid iddynt gyhoeddi’r rhestr gyfredol.
Cofnodion amgylchedd hanesyddol
I3194Dyletswydd i gynnal cofnodion amgylchedd hanesyddol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.
2
Mae cofnod amgylchedd hanesyddol yn gofnod sy’n darparu—
a
manylion pob heneb gofrestredig yn ardal yr awdurdod,
b
manylion pob adeilad rhestredig yn ardal yr awdurdod,
c
manylion pob ardal gadwraeth yn ardal yr awdurdod,
d
manylion pob parc neu ardd yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol a gynhelir o dan adran 192,
e
manylion pob safle gwrthdaro yn ardal yr awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o ddiddordeb hanesyddol,
f
pan fo awdurdod cyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill) yn cynnal rhestr o dirweddau hanesyddol yng Nghymru, fanylion pob tirwedd hanesyddol yn ardal yr awdurdod lleol sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr,
g
manylion pob safle treftadaeth y byd yn ardal yr awdurdod,
h
manylion pob ardal arall neu safle arall yn ardal yr awdurdod y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol lleol,
i
gwybodaeth am y ffordd y mae datblygiad hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol ardal yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni, wedi cyfrannu at gymeriad presennol yr ardal neu’r rhan ac am sut y gellir diogelu’r cymeriad hwnnw,
j
manylion ymchwiliadau perthnasol a gynhelir yn ardal yr awdurdod a manylion canfyddiadau’r ymchwiliadau hynny, a
k
dull o gael mynediad at fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gynhelir o dan adran 193.
3
Yn is-adran (2)(e) ystyr “safle gwrthdaro” yw—
a
maes brwydr neu safle lle y digwyddodd rhyw wrthdaro arall yr oedd lluoedd arfog yn rhan ohono, neu
b
safle lle y digwyddodd gweithgareddau sylweddol a oedd yn ymwneud â brwydr neu wrthdaro arall yr oedd lluoedd arfog yn rhan ohono.
4
Yn is-adran (2)(g) ystyr “safle treftadaeth y byd” yw unrhyw beth sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan Erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Gwarchod Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972.
5
Yn is-adran (2)(j) ystyr “ymchwiliad perthnasol” yw—
a
ymchwiliad gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru at ddiben cael gwybodaeth o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol sy’n ymwneud ag ardal yr awdurdod, a
b
unrhyw ymchwiliad arall at y diben hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei gynnwys yn y cofnod.
6
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”.
7
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
a
â phob awdurdod lleol, a
b
ag unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
8
At ddibenion yr adran hon—
a
mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod lleol yn cynnwys, yn achos awdurdod y mae ei ardal yn cynnwys rhan o lan y môr, unrhyw ran o’r môr sy’n gorwedd tua’r môr o’r rhan honno o’r lan ac sy’n ffurfio rhan o Gymru, a
b
mae ardal, safle neu beth i gael ei thrin neu ei drin fel pe bai mewn ardal awdurdod lleol os yw unrhyw ran ohoni neu ohono yn yr ardal.
9
Yn yr adran hon ac adran 196, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
I4195Mynediad at gofnodion amgylchedd hanesyddol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
rhoi pob cofnod amgylchedd hanesyddol ar gael i’r cyhoedd edrych arno, a
b
rhoi ar gael i berson sy’n dymuno edrych ar gofnod amgylchedd hanesyddol gyngor ar adalw a deall gwybodaeth sydd wedi ei darparu yn y cofnod neu y ceir mynediad ati drwy’r cofnod, neu gynhorthwy i wneud hynny.
2
Os yw—
a
person yn gofyn am gopi o ran o gofnod amgylchedd hanesyddol neu fanylion y ceir mynediad atynt drwy gofnod o’r fath, a
b
Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn rhesymol,
rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r copi hwnnw neu’r manylion hynny i’r person.
3
Os yw—
a
person yn gofyn i wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn cofnod amgylchedd hanesyddol neu y ceir mynediad ati drwy gofnod o’r fath gael ei hadalw, a
b
Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cais yn rhesymol,
rhaid i Weinidogion Cymru lunio dogfen ar gyfer y person sy’n cynnwys yr wybodaeth.
4
Wrth asesu a yw cais yn rhesymol at ddibenion is-adran (2) neu (3), mae’r materion y caiff Gweinidogion Cymru eu hystyried yn cynnwys unrhyw geisiadau blaenorol a wnaed gan y person o dan sylw neu ar ei ran.
5
Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi—
a
am ddarparu cyngor neu gynhorthwy o dan is-adran (1)(b);
b
am ddarparu copi neu fanylion o dan is-adran (2);
c
am lunio dogfen o dan is-adran (3).
6
Rhaid i ffi gael ei chyfrifo gan ystyried y gost o ddarparu’r gwasanaeth y mae’r ffi yn ymwneud ag ef.
I5196Canllawiau i gyrff cyhoeddus penodol ynghylch cofnodion amgylchedd hanesyddol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cyrff a restrir yn is-adran (2)—
a
ar sut y gall y cyrff gyfrannu tuag at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a chynorthwyo i gynnal y cofnodion, a
b
ar y defnydd o gofnodion amgylchedd hanesyddol wrth arfer swyddogaethau’r cyrff.
2
Y cyrff yw—
a
awdurdodau lleol,
b
awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, ac
c
Cyfoeth Naturiol Cymru.
3
Rhaid i’r cyrff hynny roi sylw i’r canllawiau.
4
Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
a
â’r cyrff, a
b
ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.