Parciau a gerddi hanesyddol
192Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o barciau a gerddi yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys, neu i ba raddau y dylid cynnwys, fel rhan o gofrestriad parc neu ardd—
(a)unrhyw adeilad neu ddŵr sydd arno neu arni, sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi, neu
(b)unrhyw dir sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr drwy—
(a)ychwanegu cofnod,
(b)dileu cofnod, neu
(c)diwygio cofnod.
(4)Cyn gynted ag y bo’n bosibl ar ôl diwygio’r gofrestr, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i’r personau a grybwyllir yn is-adran (5), a
(b)yn achos unrhyw ddiwygiad o dan is-adran (3)(a) neu (c), gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig yn y gofrestr.
(5)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) yw—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y parc neu’r ardd o dan sylw (gan gynnwys, os ydynt yn wahanol, berchnogion a meddianwyr unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2));
(b)yr awdurdod cynllunio y mae’r parc neu’r ardd yn ei ardal (gan gynnwys, os yw’n wahanol, yr awdurdod cynllunio y mae unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2) yn ei ardal).
(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at barciau a gerddi yn cynnwys—
(a)mannau hamdden, a
(b)unrhyw diroedd eraill sydd wedi eu dylunio (gan gynnwys tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio).