RHAN 7CYFFREDINOL
Achosion arbennig
I1207Diffiniadau sy’n ymwneud â’r Goron
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
2
Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth ynddo.
3
Ystyr “buddiant y Goron” yw buddiant—
a
sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu
b
sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.
4
Ystyr “buddiant y Ddugiaeth” yw—
a
buddiant sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu
b
buddiant sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.
5
Ystyr “buddiant preifat”, mewn perthynas â thir y Goron, yw buddiant nad yw’n fuddiant y Goron nac yn fuddiant y Ddugiaeth.
6
Ystyr “awdurdod priodol y Goron”, mewn perthynas â thir y Goron, yw—
a
yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;
b
mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;
c
mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;
d
mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;
e
mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw neu gan berson sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;
f
yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran.
7
Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.
8
Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.
9
Yn yr adran hon—
a
mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);
b
mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu i gyfeiriadau at adran o’r llywodraeth gynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).
I2208Tir Eglwys Loegr
1
Pan fo unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berchennog ar dir, a thir Eglwys Loegr yw’r tir, rhaid cyflwyno dogfen gyfatebol i’r Bwrdd Cyllid priodol hefyd.
2
Mae tir Eglwys Loegr sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig sydd heb ddeiliad i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n perthyn i’r Bwrdd Cyllid priodol.
3
Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â thir Eglwys Loegr—
a
cael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid priodol, a
b
cael ei gymhwyso gan y Bwrdd hwnnw at y dibenion y byddai enillion gwerthu’r tir drwy gytundeb yn gymwys iddynt o dan unrhyw ddeddfiad neu Fesur gan Eglwys Loegr sy’n awdurdodi neu’n gwaredu enillion gwerthiant o’r fath.
4
Pan fo swm yn adenilladwy o dan adran 22 mewn perthynas â thir Eglwys Loegr, caiff y Bwrdd Cyllid priodol gymhwyso unrhyw arian neu unrhyw warannau a ddelir ganddo i ad-dalu’r swm hwnnw.
5
Yn yr adran hon—
ystyr “Bwrdd Cyllid priodol” (“appropriate Board of Finance”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth y mae’r tir ynddi;
ystyr “Mesur gan Eglwys Loegr” (“Church Measure”) yw Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;
ystyr “tir Eglwys Loegr” (“Church of England land”) yw tir—
- a
sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig i Eglwys Loegr,
- b
sy’n eglwys neu’n ffurfio rhan o eglwys sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob yn un o esgobaethau Eglwys Loegr neu safle eglwys o’r fath, neu
- c
sy’n gladdfa neu’n ffurfio rhan o gladdfa sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob o’r fath.
- a