xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7CYFFREDINOL

Troseddau

200Troseddau gan gyrff corfforedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)uwch-swyddog i’r corff, neu

(b)person a oedd yn ymhonni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff.

(2)Mae’r uwch-swyddog neu’r person (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd, ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(4)Ond yn achos corff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r corff.

201Sancsiynau sifil

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â throsedd o dan y Ddeddf hon y gallent ei gwneud o dan Ran 3 o DGRhS 2008 (sancsiynau sifil) pe bai, at ddibenion y Rhan honno—

(a)Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod arall a chanddo swyddogaeth orfodi mewn perthynas â’r drosedd yn rheoleiddiwr, a

(b)y drosedd yn drosedd berthnasol mewn perthynas â’r rheoleiddiwr hwnnw.

(2)Mae adrannau 59(3) a 60(1) a (2) o DGRhS 2008 (ymgynghori) yn gymwys i reoliadau o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i orchymyn o dan Ran 3 o DGRhS 2008.

(3)Mae adrannau 63 i 70 o DGRhS 2008 (canllawiau, arfer pwerau, taliadau i Gronfa Gyfunol Cymru a datgelu gwybodaeth) ym gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan Ran 3 o DGRhS 2008.

(4)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at awdurdod a chanddo swyddogaeth orfodi i’w ddehongli yn unol ag adran 71 o DGRhS 2008.

(5)Yn yr adran hon ystyr “DGRhS 2008” yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).