ATODLEN 1DIWEDD GWARCHODAETH INTERIM AR GYFER HENEBION
Hysbysiadau gorfodi
5
(1)
Mae unrhyw hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â’r heneb yn peidio â chael effaith, i’r graddau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â gwaith sy’n effeithio ar unrhyw beth yr oedd y warchodaeth interim yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef.
(2)
Mae unrhyw achos o dan adran 39 neu 40(3) sy’n ymwneud â hysbysiad gorfodi yn darfod, i’r graddau y mae’r hysbysiad yn ymwneud â gwaith sy’n effeithio ar unrhyw beth yr oedd y warchodaeth interim yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef.
(3)
Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 40(1) a (2) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag—
(a)
unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a
(b)
unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.