ATODLEN 10Y WEITHDREFN AR GYFER GORCHMYNION SY’N TERFYNU CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU ADEILADAU RHESTREDIG
RHAN 1GORCHMYNION A WNEIR GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO
I11Gofyniad i gael cadarnhad Gweinidogion Cymru
1
Nid yw gorchymyn o dan adran 115 a wneir gan awdurdod cynllunio yn cymryd effaith oni bai ei fod yn cael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru.
2
Pan fo awdurdod cynllunio yn cyflwyno gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad o gyflwyno’r gorchymyn—
a
i’r partïon eraill i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig,
b
i unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r adeilad rhestredig, neu’r rhan o adeilad rhestredig, y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 2 flynedd yn weddill, ac
c
i unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn meddwl y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.
3
Rhaid i’r hysbysiad bennu o fewn pa gyfnod y caiff person y’i cyflwynir iddo wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am gyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo.
4
Os yw person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn gwneud cais o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, cyn cadarnhau’r gorchymyn rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle o’r fath i’r person hwnnw a phob awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.
5
Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.
6
Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r gorchymyn gydag addasiadau neu hebddynt.
RHAN 2GORCHMYNION A WNEIR GAN WEINIDOGION CYMRU
I22Y weithdrefn i’w dilyn cyn gwneud gorchymyn
1
Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 115, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn arfaethedig—
a
i’r partïon i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig (neu os yw Gweinidogion Cymru yn barti i’r cytundeb, y partïon eraill iddo),
b
i unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r adeilad rhestredig, neu’r rhan o adeilad rhestredig, y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 2 flynedd yn weddill, a
c
i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.
2
Rhaid i’r hysbysiad bennu o fewn pa gyfnod y caiff person y’i cyflwynir iddo wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am gyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo.
3
Os yw person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn gwneud cais o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, cyn gwneud y gorchymyn rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle o’r fath i’r person hwnnw ac i unrhyw awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.
4
Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (2) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.