Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThis
Schedule
only
Newidiadau dros amser i: ATODLEN 11
Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/11/2024.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, ATODLEN 11 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(a gyflwynir gan adran 161(5))
ATODLEN 11LL+CEFFAITH ADRAN 161 YN PEIDIO Â BOD YN GYMWYS I ADEILAD
This schedule has no associated Explanatory Notes
CyflwyniadLL+C
1Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo.
Atebolrwydd troseddolLL+C
2Nid yw’r ffaith bod yr adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson i gael ei erlyn a’i gosbi am drosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd tra oedd adran 161 yn gymwys iddo.
Cydsyniad ardal gadwraethLL+C
3Mae unrhyw achos ynghylch cais am gydsyniad ardal gadwraeth sy’n ymwneud â’r adeilad, neu sy’n deillio o gais o’r fath, yn darfod; ac mae unrhyw gydsyniad o’r fath yn peidio â chael effaith.
Hysbysiadau stop dros droLL+C
4Mae unrhyw hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
Hysbysiadau gorfodiLL+C
5(1)Mae unrhyw hysbysiad gorfodi a ddyroddir sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
(2)Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.
(3)Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) (fel y’i cymhwysir gan adran 163) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—
(a)ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a
(b)ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.
GwaharddebauLL+C
6Mae unrhyw achos ynghylch cais am waharddeb o dan adran 135 (fel y’i cymhwysir gan adran 163) sy’n ymwneud â’r adeilad yn darfod.
Back to top