ATODLEN 11EFFAITH ADRAN 161 YN PEIDIO Â BOD YN GYMWYS I ADEILAD
I11Cyflwyniad
Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo.
I22Atebolrwydd troseddol
Nid yw’r ffaith bod yr adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson i gael ei erlyn a’i gosbi am drosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd tra oedd adran 161 yn gymwys iddo.
I33Cydsyniad ardal gadwraeth
Mae unrhyw achos ynghylch cais am gydsyniad ardal gadwraeth sy’n ymwneud â’r adeilad, neu sy’n deillio o gais o’r fath, yn darfod; ac mae unrhyw gydsyniad o’r fath yn peidio â chael effaith.
I44Hysbysiadau stop dros dro
Mae unrhyw hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
I55Hysbysiadau gorfodi
1
Mae unrhyw hysbysiad gorfodi a ddyroddir sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
2
Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.
3
Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) (fel y’i cymhwysir gan adran 163) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—
a
ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a
b
ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.
I66Gwaharddebau
Mae unrhyw achos ynghylch cais am waharddeb o dan adran 135 (fel y’i cymhwysir gan adran 163) sy’n ymwneud â’r adeilad yn darfod.