ATODLEN 12PENDERFYNU APÊL GAN BERSON A BENODIR NEU WEINIDOGION CYMRU

I14Amnewid y person a benodir

1

Ar unrhyw adeg cyn i berson a benodir benderfynu apêl, caiff Gweinidogion Cymru—

a

dirymu penodiad y person, a

b

penodi person arall o dan adran 173 i benderfynu’r apêl.

2

Pan fo penodiad newydd yn cael ei wneud, rhaid dechrau ystyried yr apêl, ac unrhyw ymchwiliad neu unrhyw wrandawiad arall mewn cysylltiad â’r apêl, o’r newydd.

3

Nid yw is-baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael cyfle—

a

i gyflwyno sylwadau newydd, neu

b

i addasu neu dynnu’n ôl unrhyw sylwadau y mae’r person eisoes wedi eu cyflwyno.