ATODLEN 12PENDERFYNU APÊL GAN BERSON A BENODIR NEU WEINIDOGION CYMRU

I17Darpariaethau atodol

1

Nid yw’n sail i gais i’r Uchel Lys o dan adran 183, nac i apêl i’r Uchel Lys o dan adran 184, y dylai apêl fod wedi cael ei phenderfynu gan Weinidogion Cymru yn hytrach na pherson a benodir, oni bai bod yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio yn herio pŵer y person a benodir i benderfynu’r apêl cyn i’r penderfyniad ar yr apêl gael ei roi.

2

Pan fo person a benodir yn aelod o staff Llywodraeth Cymru, mae swyddogaethau’r person o ran penderfynu apêl a gwneud unrhyw beth mewn cysylltiad â hi i’w trin at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) fel pe baent yn swyddogaethau Llywodraeth Cymru.