ATODLEN 14DARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARPARIAETHAU ARBED
RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
I12Dogfennau sy’n cyfeirio at ddeddfiadau a ddiddymwyd
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad a ddiddymwyd sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a wneir, a gyflwynir neu a ddyroddir ar ôl i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
2
Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen (yn ôl y cyd-destun) fel pe bai’n cyfeirio neu’n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn y Ddeddf hon.