xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyfeiriad (penodol neu ymhlyg) yn y Ddeddf hon neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, neu mewn unrhyw offeryn arall neu unrhyw ddogfen arall—
(a)at ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu
(b)at unrhyw beth a wneir neu sydd i’w wneud o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu at ddibenion darpariaeth o’r fath.
(2)Mewn perthynas ag unrhyw adeg pan oedd darpariaeth gyfatebol mewn deddfiad a ddiddymwyd (neu mewn unrhyw ddeddfiad cynharach) yn cael effaith, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad—
(a)at y ddarpariaeth gyfatebol fel yr oedd yn cael effaith ar yr adeg honno, neu
(b)at bethau a wnaed neu a oedd i’w gwneud o dan y ddarpariaeth honno neu at ddibenion y ddarpariaeth honno fel yr oedd yn cael effaith ar yr adeg honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad a ddiddymwyd sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a wneir, a gyflwynir neu a ddyroddir ar ôl i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
(2)Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen (yn ôl y cyd-destun) fel pe bai’n cyfeirio neu’n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 14 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
3Mae’r Atodlen hon yn gymwys yn ychwanegol at adrannau 34 a 35 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (arbedion cyffredinol ac effaith ailddeddfu) ac nid yw’n cyfyngu ar weithrediad yr adrannau hynny mewn cysylltiad â diddymu, dirymu neu ailddeddfu unrhyw ddeddfiad gan y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 14 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
4Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a)mae cyfeiriadau at ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn cynnwys darpariaeth sydd wedi ei mewnosod mewn unrhyw ddeddfiad arall gan y Ddeddf hon;
(b)ystyr “deddfiad a ddiddymwyd” yw unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei ddiddymu gan y Ddeddf hon;
(c)mae cyfeiriadau at ddiddymu deddfiad yn cynnwys eithrio ei gymhwysiad neu ei effaith neu gyfyngu ar ei gymhwysiad neu ei effaith (pa un ai o ran Cymru neu fel arall).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 14 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)