xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
5(1)Pan fo Gweinidogion Cymru, yn union cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, yn warcheidwaid heneb yn rhinwedd gorchymyn gwarcheidiaeth—
(a)a wnaed, neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 12(5) o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953 (p. 49), a
(b)a barheir mewn grym gan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46),
mae’r gorchymyn yn parhau mewn grym er gwaethaf y ffaith bod y Rhan honno wedi dod i rym.
(2)Mae’r Rhan honno yn gymwys tra bo’r gorchymyn gwarcheidiaeth mewn grym fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi cael eu penodi yn warcheidwaid yr heneb drwy weithred o dan adran 45 o’r Ddeddf hon—
(a)nad yw’n cynnwys unrhyw gyfyngiad nad yw wedi ei gynnwys yn y gorchymyn, a
(b)a gyflawnwyd gan yr holl bersonau a oedd, ar yr adeg pan wnaed y gorchymyn, yn gallu drwy weithred benodi Gweinidogion Cymru yn warcheidwaid yr heneb.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu gorchymyn gwarcheidiaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—
(a)cymerwyd heneb i warcheidiaeth cyn 9 Hydref 1981 (y dyddiad y daeth Rhan 1 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 i rym), a
(b)yn union cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, bo’r heneb o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(2)Nid yw adran 47(2) (rheolaethu a rheoli’n llawn) yn gymwys i’r heneb oni bai—
(a)bod y weithred a oedd yn sefydlu gwarcheidiaeth yn darparu ar gyfer rheolaethu a rheoli’r heneb gan y gwarcheidwaid, neu
(b)bod y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt wedi cydsynio i’r gwarcheidwaid reolaethu a rheoli’r heneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 14 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—
(a)cymerwyd heneb i warcheidiaeth cyn 15 Awst 1913 (y dyddiad y daeth Deddf Cydgrynhoi a Diwygio Henebion Hynafol 1913 (p. 32) i rym), a
(b)yn union cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, bo’r heneb o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(2)Nid yw adran 55(1) (dyletswydd i sicrhau mynediad y cyhoedd) yn gymwys i’r heneb oni bai—
(a)bod y weithred a oedd yn sefydlu gwarcheidiaeth yn darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb, neu
(b)bod y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt wedi cydsynio i’r cyhoedd gael mynediad i’r heneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 14 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
8At ddibenion paragraffau 6 a 7, mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 14 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)