Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adrannau 10(5) a 82(6))

ATODLEN 2LL+CPENDERFYNIAD AR ADOLYGIAD GAN BERSON A BENODIR GAN WEINIDOGION CYMRU

This schedule has no associated Explanatory Notes

Cymhwyso’r Atodlen hon ac ystyr “person a benodir”LL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan berson a benodir—

(a)o dan adran 9 (adolygiadau o ddiwygiadau penodol i’r gofrestr), neu

(b)o dan adran 81 (adolygu penderfyniadau i restru adeiladau).

(2)Yn yr Atodlen hon ystyr “person a benodir” yw person a benodir o dan adran 9(3) neu 81(3) (yn ôl y digwydd) i gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Penodi person arall i wneud penderfyniad ar adolygiadLL+C

2(1)Ar unrhyw adeg cyn i berson a benodir wneud penderfyniad ar adolygiad caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dirymu penodiad y person, a

(b)penodi person arall i wneud y penderfyniad yn ei le.

(2)Pan fo penodiad newydd wedi ei wneud, rhaid dechrau’r adolygiad, ac unrhyw ymchwiliad neu unrhyw wrandawiad arall mewn cysylltiad â’r adolygiad, o’r newydd.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol rhoi cyfle i unrhyw berson i gyflwyno sylwadau newydd nac i addasu neu i dynnu’n ôl unrhyw sylwadau a gyflwynwyd eisoes.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Penodi asesydd i gynorthwyo person a benodirLL+C

3Caiff person a benodir benodi asesydd i ddarparu cyngor—

(a)ar unrhyw faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu mewn gwrandawiad a gynhelir gan y person a benodir mewn cysylltiad ag adolygiad neu o ganlyniad i ymchwiliad neu wrandawiad o’r fath, neu

(b)ar unrhyw faterion sy’n codi mewn sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir i’r person a benodir mewn cysylltiad ag adolygiad o’r fath neu o ganlyniad i sylwadau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

CyfarwyddydauLL+C

4Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod unrhyw beth y byddai’n dod i ran person a benodir i’w wneud mewn cysylltiad ag adolygiad, ac eithrio gwneud penderfyniad ar yr adolygiad, i’w wneud gan Weinidogion Cymru yn lle hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

DirprwyoLL+C

5(1)Caiff person a benodir ddirprwyo i berson arall unrhyw beth y byddai’n dod i ran y person a benodir i’w wneud mewn cysylltiad ag adolygiad, ac eithrio—

(a)cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad a gosod y dull y’i cynhelir, a

(b)gwneud penderfyniad ar yr adolygiad o dan adran 9(3)(b) neu 81(3)(b) a gosod y dull y’i gwneir.

(2)Caiff y person a benodir benderfynu graddau a thelerau dirprwyad o dan is-baragraff (1) a chaiff ddiwygio neu ddirymu’r dirprwyad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)LL+C

6Pan fo person a benodir yn aelod o staff Llywodraeth Cymru, mae swyddogaethau’r person o wneud penderfyniad ar adolygiad a gwneud unrhyw beth mewn cysylltiad ag ef i’w trin at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)