ATODLEN 5TERFYNU DRWY ORCHYMYN GYTUNDEB PARTNERIAETH HENEB GOFRESTREDIG
RHAN 2MYND YMLAEN I WNEUD GORCHYMYN AR ÔL CYFLWYNO HYSBYSIAD
I13Gwneud gorchymyn o dan adran 27
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad o derfyniad arfaethedig wedi ei gyflwyno o dan Ran 1 o’r Atodlen hon.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef oni bai—
a
bod y cyfnod ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau i’r cynnig wedi dod i ben heb i wrthwynebiad gael ei wneud gan berson y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo,
b
os gwnaed gwrthwynebiad gan berson o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, fod pob gwrthwynebiad o’r fath wedi ei dynnu’n ôl, neu
c
os gwnaed gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod hwnnw gan berson o’r fath ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl, fod gofynion is-baragraffau (3) a (4) wedi eu bodloni.
3
Mae gofynion yr is-baragraff hwn wedi eu bodloni os yw Gweinidogion Cymru—
a
yn peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, neu
b
yn rhoi i’r person a wnaeth y gwrthwynebiad gyfle i ymddangos gerbron person a benodir ganddynt a chael gwrandawiad ganddo.
4
Mae gofynion yr is-baragraff hwn wedi eu bodloni os yw Gweinidogion Cymru—
a
yn ystyried pob gwrthwynebiad a wnaed fel y’i disgrifir yn is-baragraff (2)(c) ac nas tynnwyd yn ôl, a
b
os oes ymchwiliad neu wrandawiad wedi ei gynnal o dan is-baragraff (3), yn ystyried adroddiad y person a’i cynhaliodd.
5
Pan fo person yn cymryd y cyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo o dan is-baragraff (3)(b), rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i bob un o’r personau a ganlyn i gael gwrandawiad ar yr un pryd—
a
pob person arall y cyflwynwyd yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo, a
b
unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
6
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 yn rhinwedd is-baragraff (2)(a) neu (b), rhaid gwneud y gorchymyn ar y telerau a nodir gan yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig.
7
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 yn rhinwedd is-baragraff (2)(c), caniateir gwneud y gorchymyn naill ai ar y telerau a nodir gan yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig neu gydag addasiadau.
I24Hysbysiad ar ôl gwneud gorchymyn
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan adran 27, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r gorchymyn—
a
at bob person y cyflwynwyd hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo, a
b
pan—
i
bo ymchwiliad wedi ei gynnal o dan baragraff 3(3)(a), at unrhyw berson arall a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad, neu
ii
bo gwrandawiad wedi ei gynnal o dan baragraff 3(3)(b), at unrhyw berson arall y rhoddwyd y cyfle iddo i ymddangos yn y gwrandawiad.