Rhagolygol
RHAN 2LL+CMYND YMLAEN I WNEUD GORCHYMYN AR ÔL CYFLWYNO HYSBYSIAD
Gwneud gorchymyn o dan adran 27LL+C
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad o derfyniad arfaethedig wedi ei gyflwyno o dan Ran 1 o’r Atodlen hon.
(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef oni bai—
(a)bod y cyfnod ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau i’r cynnig wedi dod i ben heb i wrthwynebiad gael ei wneud gan berson y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo,
(b)os gwnaed gwrthwynebiad gan berson o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, fod pob gwrthwynebiad o’r fath wedi ei dynnu’n ôl, neu
(c)os gwnaed gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod hwnnw gan berson o’r fath ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl, fod gofynion is-baragraffau (3) a (4) wedi eu bodloni.
(3)Mae gofynion yr is-baragraff hwn wedi eu bodloni os yw Gweinidogion Cymru—
(a)yn peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, neu
(b)yn rhoi i’r person a wnaeth y gwrthwynebiad gyfle i ymddangos gerbron person a benodir ganddynt a chael gwrandawiad ganddo.
(4)Mae gofynion yr is-baragraff hwn wedi eu bodloni os yw Gweinidogion Cymru—
(a)yn ystyried pob gwrthwynebiad a wnaed fel y’i disgrifir yn is-baragraff (2)(c) ac nas tynnwyd yn ôl, a
(b)os oes ymchwiliad neu wrandawiad wedi ei gynnal o dan is-baragraff (3), yn ystyried adroddiad y person a’i cynhaliodd.
(5)Pan fo person yn cymryd y cyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo o dan is-baragraff (3)(b), rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i bob un o’r personau a ganlyn i gael gwrandawiad ar yr un pryd—
(a)pob person arall y cyflwynwyd yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo, a
(b)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 yn rhinwedd is-baragraff (2)(a) neu (b), rhaid gwneud y gorchymyn ar y telerau a nodir gan yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig.
(7)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 yn rhinwedd is-baragraff (2)(c), caniateir gwneud y gorchymyn naill ai ar y telerau a nodir gan yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig neu gydag addasiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
Hysbysiad ar ôl gwneud gorchymynLL+C
4Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan adran 27, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r gorchymyn—
(a)at bob person y cyflwynwyd hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo, a
(b)pan—
(i)bo ymchwiliad wedi ei gynnal o dan baragraff 3(3)(a), at unrhyw berson arall a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad, neu
(ii)bo gwrandawiad wedi ei gynnal o dan baragraff 3(3)(b), at unrhyw berson arall y rhoddwyd y cyfle iddo i ymddangos yn y gwrandawiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 5 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)