ATODLEN 5TERFYNU DRWY ORCHYMYN GYTUNDEB PARTNERIAETH HENEB GOFRESTREDIG

(a gyflwynir gan adran 27(4))

RHAN 1HYSBYSIAD O DERFYNIAD ARFAETHEDIG

I11Gofyniad i gyflwyno hysbysiad o derfyniad arfaethedig

1

Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 27 sy’n terfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o gynnig i wneud y gorchymyn (“hysbysiad o derfyniad arfaethedig”)—

a

i’r partïon eraill i’r cytundeb, a

b

i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ganddo fuddiant yn y cytundeb.

2

Rhaid i hysbysiad o derfyniad arfaethedig—

a

cynnwys copi o’r gorchymyn y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig ei wneud,

b

nodi’r rhesymau dros y terfyniad arfaethedig,

c

datgan bod gan y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo 28 o ddiwrnodau, sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, i wneud gwrthwynebiad ynghylch y cynnig i Weinidogion Cymru, a

d

datgan y ffordd y mae rhaid i wrthwynebiad gael ei wneud.

3

Pan mai effaith y gorchymyn y cynigir ei wneud o dan adran 27 fyddai dirymu cydsyniad heneb gofrestredig a roddwyd gan y cytundeb, rhaid i’r hysbysiad o derfyniad arfaethedig ddarparu na chaniateir i’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef gael ei gyflawni ar ddiwrnod a bennir gan yr hysbysiad nac ar ôl y diwrnod hwnnw.

4

Pan mai effaith gorchymyn y cynigir ei wneud o dan adran 27 fyddai eithrio unrhyw waith o gwmpas cydsyniad heneb gofrestredig a roddwyd gan y cytundeb, rhaid i’r hysbysiad o derfyniad arfaethedig ddarparu na chaniateir i’r gwaith yr effeithir arno gael ei gyflawni ar ddiwrnod a bennir gan yr hysbysiad nac ar ôl y diwrnod hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 5 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I22Effaith cyflwyno hysbysiad o derfyniad arfaethedig ar waith awdurdodedig

1

Pan fo hysbysiad o derfyniad arfaethedig yn darparu na chaniateir i’r gwaith y mae cydsyniad heneb gofrestredig yn ymwneud ag ef gael ei gyflawni ar ddiwrnod a bennir gan yr hysbysiad nac ar ôl y diwrnod hwnnw, nid yw’r gwaith hwnnw wedi ei awdurdodi at ddibenion Pennod 3 o Ran 2 o’r Ddeddf hon o ddechrau’r diwrnod hwnnw.

2

Pan fo hysbysiad o derfyniad arfaethedig yn darparu na chaniateir i waith a bennir yn yr hysbysiad gael ei gyflawni ar ddiwrnod a bennir gan yr hysbysiad nac ar ôl y diwrnod hwnnw, nid yw’r gwaith penodedig wedi ei awdurdodi at ddibenion Pennod 3 o Ran 2 o’r Ddeddf hon o ddechrau’r diwrnod hwnnw.

3

Mae darpariaethau blaenorol y paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith y mae hysbysiad o derfyniad arfaethedig yn effeithio arno—

a

pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 o fewn y cyfnod o 21 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig (“y cyfnod o 21 mis”), pan gaiff y gorchymyn ei wneud (a phryd hynny, mae’r awdurdodiad yn peidio i’r graddau a ddarperir yn y gorchymyn),

b

pan fo Gweinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 mis, yn cyflwyno hysbysiad i bob person y cyflwynwyd yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud y gorchymyn, ar ddechrau’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn yn yr hysbysiad, neu

c

mewn unrhyw achos arall, ar ddiwedd y cyfnod o 21 mis.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 5 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

RHAN 2MYND YMLAEN I WNEUD GORCHYMYN AR ÔL CYFLWYNO HYSBYSIAD

I33Gwneud gorchymyn o dan adran 27

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad o derfyniad arfaethedig wedi ei gyflwyno o dan Ran 1 o’r Atodlen hon.

2

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef oni bai—

a

bod y cyfnod ar gyfer gwneud gwrthwynebiadau i’r cynnig wedi dod i ben heb i wrthwynebiad gael ei wneud gan berson y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo,

b

os gwnaed gwrthwynebiad gan berson o’r fath o fewn y cyfnod hwnnw, fod pob gwrthwynebiad o’r fath wedi ei dynnu’n ôl, neu

c

os gwnaed gwrthwynebiad yn ystod y cyfnod hwnnw gan berson o’r fath ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl, fod gofynion is-baragraffau (3) a (4) wedi eu bodloni.

3

Mae gofynion yr is-baragraff hwn wedi eu bodloni os yw Gweinidogion Cymru—

a

yn peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, neu

b

yn rhoi i’r person a wnaeth y gwrthwynebiad gyfle i ymddangos gerbron person a benodir ganddynt a chael gwrandawiad ganddo.

4

Mae gofynion yr is-baragraff hwn wedi eu bodloni os yw Gweinidogion Cymru—

a

yn ystyried pob gwrthwynebiad a wnaed fel y’i disgrifir yn is-baragraff (2)(c) ac nas tynnwyd yn ôl, a

b

os oes ymchwiliad neu wrandawiad wedi ei gynnal o dan is-baragraff (3), yn ystyried adroddiad y person a’i cynhaliodd.

5

Pan fo person yn cymryd y cyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo o dan is-baragraff (3)(b), rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i bob un o’r personau a ganlyn i gael gwrandawiad ar yr un pryd—

a

pob person arall y cyflwynwyd yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo, a

b

unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

6

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 yn rhinwedd is-baragraff (2)(a) neu (b), rhaid gwneud y gorchymyn ar y telerau a nodir gan yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig.

7

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn o dan adran 27 yn rhinwedd is-baragraff (2)(c), caniateir gwneud y gorchymyn naill ai ar y telerau a nodir gan yr hysbysiad o derfyniad arfaethedig neu gydag‍ addasiadau.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I44Hysbysiad ar ôl gwneud gorchymyn

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan adran 27, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r gorchymyn—

a

at bob person y cyflwynwyd hysbysiad o derfyniad arfaethedig iddo, a

b

pan—

i

bo ymchwiliad wedi ei gynnal o dan baragraff 3(3)(a), at unrhyw berson arall a roddodd dystiolaeth yn yr ymchwiliad, neu

ii

bo gwrandawiad wedi ei gynnal o dan baragraff 3(3)(b), at unrhyw berson arall y rhoddwyd y cyfle iddo i ymddangos yn y gwrandawiad.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 5 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

RHAN 3ATODOL

I55Y weithdrefn ar ôl gwrandawiad neu ymchwiliad

1

Rhaid i’r person a benodir i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad o dan baragraff 3 lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.

2

Rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau ac argymhelliad y person a benodir ynghylch a ddylid gwneud gorchymyn o dan adran 27 (neu resymau’r person a benodir dros beidio â gwneud argymhelliad).