Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Hysbysiadau gorfodiLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

5(1)Mae unrhyw hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.

(2)Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.

(3)Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—

(a)ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a

(b)ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(d)