ATODLEN 7DIWEDD GWARCHODAETH INTERIM NEU RESTRU DROS DRO AR GYFER ADEILADAU
I11Cyflwyniad
Mae’r Atodlen hon yn gymwys—
a
pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 79(5)(b) eu bod wedi penderfynu peidio â rhestru’r adeilad, neu
b
pan fo rhestru dros dro yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad—
i
ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn adran 85(1), neu
ii
oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan adran 85(3) nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.
I22Atebolrwydd troseddol
Nid yw’r ffaith nad yw’r adeilad yn cael ei drin mwyach fel pe bai’n adeilad rhestredig yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson i gael ei erlyn a’i gosbi am drosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd tra oedd yr adeilad yn cael ei drin fel adeilad rhestredig.
I33Cydsyniad adeilad rhestredig
Mae unrhyw achos ynghylch cais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n ymwneud â’r adeilad, neu sy’n deillio o gais o’r fath, yn darfod; ac mae unrhyw gydsyniad o’r fath yn peidio â chael effaith.
I44Hysbysiadau stop dros dro
Mae unrhyw hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
I55Hysbysiadau gorfodi
1
Mae unrhyw hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
2
Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.
3
Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—
a
ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a
b
ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.
I66Gwaharddebau
Mae unrhyw achos ynghylch cais am waharddeb o dan adran 135 sy’n ymwneud a’r adeilad yn darfod.