Rhagolygol
(a gyflwynir gan adrannau 79(6) a 85(4))
1Mae’r Atodlen hon yn gymwys—
(a)pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 79(5)(b) eu bod wedi penderfynu peidio â rhestru’r adeilad, neu
(b)pan fo rhestru dros dro yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad—
(i)ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn adran 85(1), neu
(ii)oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan adran 85(3) nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
2Nid yw’r ffaith nad yw’r adeilad yn cael ei drin mwyach fel pe bai’n adeilad rhestredig yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson i gael ei erlyn a’i gosbi am drosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd tra oedd yr adeilad yn cael ei drin fel adeilad rhestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 7 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
3Mae unrhyw achos ynghylch cais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n ymwneud â’r adeilad, neu sy’n deillio o gais o’r fath, yn darfod; ac mae unrhyw gydsyniad o’r fath yn peidio â chael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 7 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
4Mae unrhyw hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 7 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
5(1)Mae unrhyw hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
(2)Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.
(3)Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—
(a)ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a
(b)ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 7 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
6Mae unrhyw achos ynghylch cais am waharddeb o dan adran 135 sy’n ymwneud a’r adeilad yn darfod.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 7 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)