ATODLEN 8LL+CY WEITHDREFN AR GYFER GORCHMYNION SY’N ADDASU NEU’N DIRYMU CYDSYNIAD ADEILAD RHESTREDIG

RHAN 1LL+CGORCHMYNION A WNEIR GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO

Y weithdrefn i orchmynion gymryd effaith heb gadarnhadLL+C

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo awdurdod cynllunio wedi gwneud gorchymyn o dan adran 107, a

(b)bo’r personau a ganlyn wedi hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig nad ydynt yn gwrthwynebu’r gorchymyn—

(i)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, a

(ii)pob person arall y mae’r awdurdod yn meddwl y bydd y gorchymyn yn effeithio arno.

(2)Rhaid i’r awdurdod cynllunio (yn lle cyflwyno’r gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau)—

(a)cyhoeddi hysbysiad yn y ffordd a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod y gorchymyn wedi ei wneud,

(b)cyflwyno copi o’r hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), ac

(c)anfon copi o’r hysbysiad at Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod ar ôl y diwrnod y’i cyhoeddir.

(3)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)o fewn pa gyfnod y caiff personau y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt roi hysbysiad i Weinidogion Cymru eu bod am i’r gorchymyn gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan y weithdrefn ym mharagraff 2;

(b)y cyfnod, os na roddir hysbysiad o‘r fath ac nad yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod rhaid cyflwyno’r gorchymyn iddynt i’w gadarnhau, y bydd y gorchymyn yn cymryd effaith heb gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru ar ei ddiwedd.

(4)Os, ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(a)—

(a)nad yw unrhyw berson y mae’r gorchymyn yn effeithio arno wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru fel y’i crybwyllir yn is-baragraff (3)(a), a

(b)nad yw Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo bod rhaid cyflwyno’r gorchymyn iddynt i’w gadarnhau,

mae’r gorchymyn yn cymryd effaith ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(b).

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y caiff yr hysbysiad o wneud y gorchymyn ei gyhoeddi am y tro cyntaf.

(6)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(b) fod o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I3Atod. 8 para. 3(2)(a) mewn grym ar 9.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/860, ergl. 2(2)(f)

I4Atod. 8 para. 3(2)(a) mewn grym ar 4.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/860, ergl. 3(d)