Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Adran 106 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

106Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y GoronLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod priodol y Goron wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig i Weinidogion Cymru (yn lle gwneud cais i awdurdod cynllunio)—

(a)os yw’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef ar dir y Goron, a

(b)os yw awdurdod priodol y Goron yn ardystio—

(i)bod y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer o bwysigrwydd cenedlaethol, a

(ii)ei bod yn angenrheidiol i’r gwaith gael ei gyflawni fel mater o frys.

(2)Cyn gwneud y cais, rhaid i awdurdod priodol y Goron gyhoeddi hysbysiad mewn un neu ragor o bapurau newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig—

(a)sy’n disgrifio’r gwaith arfaethedig, a

(b)sy’n datgan ei fod yn cynnig gwneud y cais i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(3)Pan fo awdurdod priodol y Goron yn gwneud cais o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo roi i Weinidogion Cymru ddatganiad o’i seiliau dros wneud y cais;

(b)caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’w galluogi i benderfynu’r cais.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael dogfen neu ddeunydd arall yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r ddogfen neu’r deunydd arall ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn ardal leol y gwaith arfaethedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau, gyhoeddi hysbysiad o’r cais ac o’r ffaith bod dogfennau a deunydd arall ar gael i edrych arnynt.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch y cais—

(a)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, a

(b)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau.

(7)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae dogfen neu ddeunydd arall yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 178 (cyfyngu mynediad at dystiolaeth ar sail diogelwch gwladol).

(9)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.

(10)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 106(1)-(4), (6)-(10) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)

I3A. 106(5) mewn grym ar 9.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/860, ergl. 2(2)(c)

I4A. 106(5) mewn grym ar 4.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?