Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

106Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y GoronLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff awdurdod priodol y Goron wneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig i Weinidogion Cymru (yn lle gwneud cais i awdurdod cynllunio)—

(a)os yw’r adeilad rhestredig y mae’r cais yn ymwneud ag ef ar dir y Goron, a

(b)os yw awdurdod priodol y Goron yn ardystio—

(i)bod y gwaith y ceisir cydsyniad ar ei gyfer o bwysigrwydd cenedlaethol, a

(ii)ei bod yn angenrheidiol i’r gwaith gael ei gyflawni fel mater o frys.

(2)Cyn gwneud y cais, rhaid i awdurdod priodol y Goron gyhoeddi hysbysiad mewn un neu ragor o bapurau newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol yr adeilad rhestredig—

(a)sy’n disgrifio’r gwaith arfaethedig, a

(b)sy’n datgan ei fod yn cynnig gwneud y cais i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(3)Pan fo awdurdod priodol y Goron yn gwneud cais o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo roi i Weinidogion Cymru ddatganiad o’i seiliau dros wneud y cais;

(b)caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’w galluogi i benderfynu’r cais.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael dogfen neu ddeunydd arall yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r ddogfen neu’r deunydd arall ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn ardal leol y gwaith arfaethedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau, gyhoeddi hysbysiad o’r cais ac o’r ffaith bod dogfennau a deunydd arall ar gael i edrych arnynt.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch y cais—

(a)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad rhestredig yn ei ardal, a

(b)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau.

(7)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae dogfen neu ddeunydd arall yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 178 (cyfyngu mynediad at dystiolaeth ar sail diogelwch gwladol).

(9)Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais yn derfynol.

(10)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)