RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Awdurdodi gwaith
11Gofyniad i waith gael ei awdurdodi
(1)
Ni chaiff person gyflawni gwaith y mae’r adran hon yn gymwys iddo, na pheri na chaniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon.
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
i waith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig, neu at unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig;
(b)
i waith at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu wneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu i unrhyw ran ohoni neu unrhyw ychwanegiadau ati neu at unrhyw ran ohoni;
(c)
i weithrediadau i foddi tir, neu weithrediadau tipio ar dir, y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano.