RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Hysbysiadau stop dros dro
I1119Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
1
Caiff awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad stop dros dro os yw’n ystyried—
a
bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, a
b
y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i’w effaith ar gymeriad yr adeilad fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
2
Rhaid i hysbysiad stop dros dro—
a
pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,
b
gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),
c
nodi rhesymau’r awdurdod dros ddyroddi’r hysbysiad, a
d
datgan effaith adran 121 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).
3
Rhaid i’r awdurdod cynllunio arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef; a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.
4
Ond—
a
os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad, neu
b
os yw’r awdurdod yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad ei ddifrodi,
caiff yr awdurdod, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r adeilad ag y bo’n rhesymol ymarferol.
5
Caiff yr awdurdod gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y mae’r awdurdod yn ystyried—
a
ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,
b
ei fod yn feddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu
c
bod ganddo fuddiant yn yr adeilad.
6
Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd cyflawni gwaith o ddisgrifiad, neu o dan amgylchiadau, a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.