Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Adran 122 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 04 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

122Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros droLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)na fo’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y bydd yr hysbysiad yn cymryd effaith, yn golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, neu

(b)bo awdurdod cynllunio yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan—

(a)bo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi ar gyfer y gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro ar ôl i’r hysbysiad gymryd effaith, a

(b)bo’r awdurdod cynllunio yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef ar‍ yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi—

(a)drwy ddarparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio o dan adran 197 o’r Ddeddf hon neu adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)drwy gydweithredu â’r awdurdod cynllunio mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i hysbysiad o’r fath.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 122 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(b)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?