Rhagolygol
(1)Caiff y personau a ganlyn apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad gorfodi (pa un a oes copi o’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddynt ai peidio)—
(a)unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b)unrhyw berson sydd, yn rhinwedd trwydded—
(i)yn meddiannu’r adeilad ar y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a
(ii)yn parhau i’w feddiannu pan wneir yr apêl.
(2)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a)nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;
(b)nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 88 neu amod yn y cydsyniad adeilad rhestredig wedi digwydd;
(c)nad yw’r materion hynny (os digwyddasant) yn doriad o’r fath;
(d)bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(i)bod y gwaith i’r adeilad yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu ar gyfer diogelu’r adeilad,
(ii)nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu drwy gyflawni gwaith atgyweirio neu waith i ategu neu gysgodi’r adeilad dros dro, a
(iii)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith;
(e)y dylai cydsyniad adeilad rhestredig gael ei roi ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu y dylai unrhyw amod perthnasol yn y cydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd ar gyfer y gwaith gael ei ddileu neu gael ei ddisodli gan amodau gwahanol;
(f)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad i berson fel sy’n ofynnol gan adran 124;
(g)na fyddai camau y mae’r hysbysiad yn eu gwneud yn ofynnol o dan adran 123(3)(a) yn ateb y diben o adfer cymeriad yr adeilad;
(h)bod camau y mae’r hysbysiad yn eu gwneud yn ofynnol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn adran 123(3) yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol at y diben o dan sylw;
(i)bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo yn afresymol o fyr.
(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud drwy—
(a)cyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y mae i gymryd effaith,
(b)anfon hysbysiad o apêl at Weinidogion Cymru mewn llythyr wedi ei gyfeirio’n briodol a’i ragdalu a’i bostio atynt ar adeg pan fyddai, yng nghwrs arferol y post, yn cael ei ddanfon atynt cyn y dyddiad hwnnw, neu
(c)anfon hysbysiad o apêl at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig ar adeg pan fyddai, yng nghwrs arferol trosglwyddo, yn cael ei ddanfon atynt cyn y dyddiad hwnnw.
(4)Pan fo apêl wedi ei gwneud—
(a)nid yw’r hysbysiad gorfodi yn cael effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 184(5);
(b)nid oes gan yr apelydd nac unrhyw berson arall hawlogaeth, mewn unrhyw achos arall a ddechreuodd ar ôl i’r apêl gael ei gwneud, i honni na chyflwynwyd yr hysbysiad gorfodi i’r apelydd yn unol ag adran 124.
(5)Rhaid i apelydd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(6)Rhaid i’r apelydd gyflwyno’r datganiad naill ai—
(a)gyda’r hysbysiad o apêl, neu
(b)o fewn y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(7)Pan fo apêl yn cael ei gwneud ar fwy nag un sail, os yw’r apelydd yn methu â rhoi gwybodaeth sy’n ofynnol o dan is-adran (5) mewn perthynas â sail o fewn y cyfnod a bennir o dan is-adran (6)(b), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r apêl heb ystyried y sail honno.
(8)Mae Pennod 2 o Ran 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyried apelau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth iddynt gael eu penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)