RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 4GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD AG ADEILADAU RHESTREDIG
Apelau ac achosion eraill sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodi
I1129Y seiliau dros apelio i beidio â chael eu codi mewn achosion eraill
Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd hysbysiad gorfodi, ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau y caniateir gwneud apêl arnynt o dan adran 127, mewn unrhyw achos ac eithrio apêl o dan yr adran honno.