RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Caffael drwy gytundeb adeiladau o ddiddordeb arbennig

I1136Pŵer awdurdod cynllunio i gaffael adeilad drwy gytundeb

1

Caiff awdurdod cynllunio gaffael drwy gytundeb—

a

unrhyw adeilad sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae’n ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a

b

unrhyw dir y mae’r amodau yn is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad ag ef.

2

Yr amodau yw—

a

bod y tir yn cynnwys yr adeilad, yn cydffinio ag ef neu’n gyfagos iddo, a

b

bod yr awdurdod cynllunio yn ystyried bod angen y tir—

i

ar gyfer diogelu’r adeilad neu ei amwynderau,

ii

ar gyfer darparu neu hwyluso mynediad iddo, neu

iii

ar gyfer ei reolaethu’n briodol neu ei reoli’n briodol.

3

Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

4

Mae cyfeiriadau yn y Rhan honno at “the execution of the works” i’w darllen mewn perthynas â chaffaeliad o dan yr adran hon fel pe baent yn cynnwys cyflawni gwaith adeiladu neu waith cynnal a chadw sydd wedi ei awdurdodi gan adran 203 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill).