Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

138Gofyniad i gyflwyno hysbysiad atgyweirio cyn dechrau caffael yn orfodol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff awdurdod caffael ddechrau caffael adeilad rhestredig yn orfodol o dan adran 137 oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi cyflwyno hysbysiad atgyweirio i bob perchennog ar yr adeilad,

(b)bod y 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad atgyweirio wedi dod i ben, ac

(c)nad yw’r hysbysiad atgyweirio wedi ei dynnu’n ôl.

(2)Mae hysbysiad atgyweirio yn hysbysiad—

(a)sy’n pennu’r gwaith y mae’r awdurdod yn ystyried ei fod yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diogelu’r adeilad rhestredig yn briodol, a

(b)sy’n esbonio effaith adrannau 137 i 141 o’r Ddeddf hon ac adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) (rhagdybiaeth ynghylch cydsyniad adeilad rhestredig wrth asesu digollediad am gaffaeliad gorfodol).

(3)Os—

(a)yw adeilad rhestredig yn cael ei ddymchwel ar ôl cyflwyno hysbysiad atgyweirio mewn cysylltiad ag ef, ond

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddent wedi cadarnhau neu wedi gwneud gorchymyn prynu gorfodol mewn cysylltiad â’r adeilad pe na bai wedi cael ei ddymchwel,

nid yw dymchwel yr adeilad yn atal caffael safle’r adeilad yn orfodol o dan adran 137.

(4)Caiff awdurdod caffael ar unrhyw adeg dynnu’n ôl hysbysiad atgyweirio y mae wedi ei gyflwyno i unrhyw berson; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi hysbysiad i’r person ar unwaith ei fod wedi ei dynnu’n ôl.

(5)At ddibenion is-adran (1) mae awdurdod caffael yn dechrau caffaeliad gorfodol pan fydd yn cyflwyno’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.