RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5CAFFAEL A DIOGELU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Caffael yn orfodol adeiladau rhestredig y mae angen eu hatgyweirio
I1140Cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol pan ganiatawyd i adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol
1
Caiff gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer caffael adeilad rhestredig o dan adran 137 gynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol os yw’r awdurdod caffael wedi ei fodloni y caniatawyd i’r adeilad fynd i gyflwr gwael yn fwriadol at ddiben cyfiawnhau ei ddymchwel a datblygu’r safle neu unrhyw safle cydffiniol.
2
Mae cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol yn gyfarwyddyd, wrth asesu digollediad am gaffael yr adeilad rhestredig yn orfodol, ei bod i’w thybio—
a
na fyddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o safle’r adeilad, a
b
na fyddai cydsyniad adeilad rhestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith ar gyfer dymchwel, addasu neu estyn yr adeilad ac eithrio gwaith sy’n angenrheidiol i’w adfer i gyflwr priodol ac i’w gynnal mewn cyflwr priodol.
3
Pan fo cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol wedi ei gynnwys mewn gorchymyn a wnaed gan awdurdod cynllunio neu a luniwyd ar ffurf ddrafft gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r datganiad o effaith y gorchymyn yn yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 12 o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) neu baragraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno—
a
cynnwys datganiad bod y cyfarwyddyd wedi ei gynnwys, a
b
esbonio effaith y cyfarwyddyd.
4
Os yw Gweinidogion Cymru yn cadarnhau neu’n gwneud gorchymyn prynu gorfodol sy’n cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer digollediad isafol, mae’r digollediad am y caffaeliad gorfodol i’w asesu yn unol â’r cyfarwyddyd, er gwaethaf unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn—
d
y Ddeddf hon.