RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH
Dyletswyddau sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraeth
160Arfer swyddogaethau cynllunio: dyletswydd gyffredinol sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraeth
1
Wrth arfer swyddogaeth gynllunio mewn perthynas ag adeilad neu dir arall mewn ardal gadwraeth, rhaid i berson roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal honno.
2
Yn yr adran hon ystyr “swyddogaeth gynllunio” yw unrhyw swyddogaeth o dan neu yn rhinwedd y canlynol—
a
Rhan 3, y Rhan hon, Rhan 5 neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny,
c
adran 70 neu 73 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (cynlluniau rheoli ystad).