RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH

PENNOD 1ARFER SWYDDOGAETHAU GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO AC AWDURDODAU LLEOL ERAILL

I1167Ffioedd a thaliadau am arfer swyddogaethau

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu neu i dâl gael ei dalu i awdurdod cynllunio am—

a

cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 3, Rhan 4, y Rhan hon neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny;

b

gwneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i’w cyflawni neu’n ddeilliadol i’w cyflawni.

2

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—

a

gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi neu dâl;

b

gwneud darpariaeth ynghylch pwy y mae rhaid iddo dalu ffi neu dâl;

c

gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi neu dâl i’w chyfrifo neu ei gyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo neu ei gyfrifo);

d

pennu amgylchiadau pan fo ffi neu dâl i’w hepgor neu i’w had-dalu neu ei ad-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);

e

pennu amgylchiadau pan nad oes ffi neu dâl i’w thalu neu ei dalu;

f

gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi neu dâl yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon);

g

pennu amgylchiadau pan fo ffi neu dâl sy’n daladwy i un awdurdod cynllunio i’w throsglwyddo neu ei drosglwyddo i awdurdod cynllunio arall.

3

Os yw rheoliadau o dan yr adran hon yn darparu i awdurdod cynllunio gyfrifo swm unrhyw ffioedd neu daliadau, rhaid i’r awdurdod sicrhau, gan ystyried un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw ei incwm o’r ffioedd neu’r taliadau yn fwy na chost cyflawni’r swyddogaethau, neu wneud y pethau, y maent yn ymwneud â hwy.