169Trefniadau ar gyfer cael cyngor arbenigol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio ar unrhyw adeg i gyflwyno i’w cymeradwyo ganddynt y trefniadau y mae’r awdurdod yn cynnig eu gwneud ar gyfer cael cyngor arbenigol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau perthnasol.
(2)Rhaid i’r awdurdod gyflwyno ei drefniadau arfaethedig i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni â’r trefniadau y mae’r awdurdod (“awdurdod A”) yn cynnig eu gwneud, cânt gyfarwyddo awdurdod A ac awdurdod cynllunio arall a bennir yn y cyfarwyddyd (“awdurdod B”)—
(a)i wneud cytundeb o dan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i osod ar gael i awdurdod A wasanaethau personau a gyflogir gan awdurdod B sy’n gymwys i roi’r cyngor arbenigol, neu
(b)i wneud trefniadau i awdurdod B arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau perthnasol awdurdod A.
(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) wneud darpariaeth ynghylch telerau’r trefniadau.
(5)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau awdurdod cynllunio.
(6)At ddibenion yr adran hon swyddogaethau perthnasol awdurdod cynllunio yw ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd—
(a)adrannau 83 a 84 (rhestru adeiladau dros dro),
(b)Pennod 2 (rhoi, addasu a dirymu cydsyniad) o Ran 3,
(c)Pennod 3 (cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig) o’r Rhan honno,
(d)Pennod 4 (gorfodi rheolaethau) o’r Rhan honno,
(e)adran 314A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig), ac
(f)adrannau 158 i 163 o’r Ddeddf hon (dynodi ardaloedd cadwraeth, dyletswyddau awdurdodau cynllunio a rheolaethu dymchwel).