RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH

PENNOD 1ARFER SWYDDOGAETHAU GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO AC AWDURDODAU LLEOL ERAILL

I1171Cyfraniadau tuag at wariant gan awdurdodau lleol

1

Caiff unrhyw awdurdod lleol neu unrhyw ymgymerwr statudol gyfrannu tuag at wariant yr eir iddo gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, ei swyddogaethau o dan Ran 3 (gan gynnwys ei swyddogaethau o dan y Rhan honno fel y’i cymhwysir gan adran 163).

2

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i wariant yr eir iddo—

a

wrth dalu digollediad o dan adrannau 80, 86, 108, 116 a 122 (ond nid yw hyn yn atal awdurdod rhag cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b)), neu

b

wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, swyddogaethau o dan adrannau 143 i 146, 148 a 149.

3

Pan fo digollediad yn daladwy gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir o dan Benodau 1 i 4 o Ran 3 (gan gynnwys unrhyw beth a wneir o dan Bennod 2 neu 4 o’r Rhan honno fel y’i cymhwysir gan adran 163), caiff Gweinidogion Cymru—

a

cyfrannu tuag at dalu’r digollediad, os gwnaed y peth yn gyfan gwbl neu’n rhannol er budd gwasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru, neu

b

cyfarwyddo awdurdod lleol arall i gyfrannu swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol, gan roi sylw i unrhyw fudd sy’n cronni i’r awdurdod arall hwnnw o ganlyniad i wneud y peth.

4

Nid yw is-adran (3)(b) yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio yn agored i dalu digollediad o dan adran 116 o ganlyniad i derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

5

Mewn achos o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw awdurdod cynllunio arall sy’n barti i’r cytundeb, neu a oedd yn barti i’r cytundeb, i ad-dalu’r awdurdod y mae’r digollediad yn daladwy ganddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

6

Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan is-adran (5) oni bai eu bod wedi ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio sy’n bartïon i’r cytundeb, neu a oedd yn bartïon i’r cytundeb.