RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau i Weinidogion Cymru
I1172Ffioedd am apelau
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddo dalu ffi i Weinidogion Cymru.
2
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
b
i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).
3
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—
a
gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi;
b
gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi i’w chyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo);
c
pennu amgylchiadau pan fo ffi i’w hepgor neu ei had-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);
d
pennu amgylchiadau pan nad oes ffi i’w thalu;
e
gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).