Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

175Gofynion gweithdrefnol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad—

(a)ag achos ar unrhyw gais, unrhyw apêl neu unrhyw atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)ag unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â materion paratoadol ar gyfer ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu faterion sy’n codi yn dilyn ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

(b)cynnal achos.

(3)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn—

(a)pan fo camau wedi eu cymryd gyda golwg ar gynnal ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd,

(b)pan fo camau wedi eu cymryd gyda golwg ar benderfynu unrhyw fater gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru a bod yr achos yn destun cyfarwyddyd bod rhaid i’r mater gael ei benderfynu yn lle hynny gan Weinidogion Cymru, neu

(c)pan fo camau wedi eu cymryd yn unol â chyfarwyddyd o’r fath a bod cyfarwyddyd pellach yn cael ei roi sy’n dirymu’r cyfarwyddyd hwnnw,

a chânt ddarparu bod camau o’r fath i’w trin fel pe baent yn cydymffurfio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gofynion y rheoliadau.

(4)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu terfyn amser y mae rhaid i barti i achos gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw ddogfennau ategol oddi mewn iddo, neu alluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau sy’n gosod y terfyn amser mewn achos penodol neu mewn achosion o ddisgrifiad penodol;

(b)galluogi Gweinidogion Cymru i fynd ymlaen i wneud penderfyniad gan ystyried dim ond y sylwadau ysgrifenedig a’r dogfennau ategol a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser;

(c)galluogi Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r partïon o’u bwriad i wneud hynny, i fynd ymlaen i wneud penderfyniad er na chyflwynwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfyn amser, os ydynt yn ystyried bod ganddynt ddigon o ddeunydd ger eu bron i’w galluogi i ddod i benderfyniad ar rinweddau’r achos.

(5)Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan—

(a)caniateir i gyfarwyddyd ynghylch talu costau Gweinidogion Cymru gael ei roi o dan adran 180;

(b)caniateir i orchymyn ynghylch talu costau parti gael ei wneud o dan adran 181.

(6)Caiff y rheoliadau ddarparu na chaniateir, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, godi mater mewn achos ar apêl i Weinidogion Cymru oni bai—

(a)y codwyd y mater yn flaenorol cyn adeg a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)y dangosir na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno.