RHAN 6ASEDAU TREFTADAETH ERAILL A CHOFNODION
Cofnodion amgylchedd hanesyddol
194Dyletswydd i gynnal cofnodion amgylchedd hanesyddol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.
(2)
Mae cofnod amgylchedd hanesyddol yn gofnod sy’n darparu—
(a)
manylion pob heneb gofrestredig yn ardal yr awdurdod,
(b)
manylion pob adeilad rhestredig yn ardal yr awdurdod,
(c)
manylion pob ardal gadwraeth yn ardal yr awdurdod,
(d)
manylion pob parc neu ardd yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol a gynhelir o dan adran 192,
(e)
manylion pob safle gwrthdaro yn ardal yr awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o ddiddordeb hanesyddol,
(f)
pan fo awdurdod cyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill) yn cynnal rhestr o dirweddau hanesyddol yng Nghymru, fanylion pob tirwedd hanesyddol yn ardal yr awdurdod lleol sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr,
(g)
manylion pob safle treftadaeth y byd yn ardal yr awdurdod,
(h)
manylion pob ardal arall neu safle arall yn ardal yr awdurdod y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu ei fod o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol lleol,
(i)
gwybodaeth am y ffordd y mae datblygiad hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol ardal yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni, wedi cyfrannu at gymeriad presennol yr ardal neu’r rhan ac am sut y gellir diogelu’r cymeriad hwnnw,
(j)
manylion ymchwiliadau perthnasol a gynhelir yn ardal yr awdurdod a manylion canfyddiadau’r ymchwiliadau hynny, a
(k)
dull o gael mynediad at fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gynhelir o dan adran 193.
(3)
Yn is-adran (2)(e) ystyr “safle gwrthdaro” yw—
(a)
maes brwydr neu safle lle y digwyddodd rhyw wrthdaro arall yr oedd lluoedd arfog yn rhan ohono, neu
(b)
safle lle y digwyddodd gweithgareddau sylweddol a oedd yn ymwneud â brwydr neu wrthdaro arall yr oedd lluoedd arfog yn rhan ohono.
(4)
Yn is-adran (2)(g) ystyr “safle treftadaeth y byd” yw unrhyw beth sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan Erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Gwarchod Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972.
(5)
Yn is-adran (2)(j) ystyr “ymchwiliad perthnasol” yw—
(a)
ymchwiliad gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru at ddiben cael gwybodaeth o ddiddordeb hanesyddol, archaeolegol neu bensaernïol sy’n ymwneud ag ardal yr awdurdod, a
(b)
unrhyw ymchwiliad arall at y diben hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei gynnwys yn y cofnod.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio ystyr “cofnod amgylchedd hanesyddol”.
(7)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
(a)
â phob awdurdod lleol, a
(b)
ag unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(8)
At ddibenion yr adran hon—
(a)
mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod lleol yn cynnwys, yn achos awdurdod y mae ei ardal yn cynnwys rhan o lan y môr, unrhyw ran o’r môr sy’n gorwedd tua’r môr o’r rhan honno o’r lan ac sy’n ffurfio rhan o Gymru, a
(b)
mae ardal, safle neu beth i gael ei thrin neu ei drin fel pe bai mewn ardal awdurdod lleol os yw unrhyw ran ohoni neu ohono yn yr ardal.
(9)
Yn yr adran hon ac adran 196, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.