RHAN 7CYFFREDINOL
Pwerau i wneud gwybodaeth am fuddiannau mewn tir yn ofynnol
I1198Troseddau mewn cysylltiad ag adran 197
1
Mae person y mae hysbysiad o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu, heb esgus rhesymol, â darparu’r wybodaeth.
2
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
3
Mae person y mae hysbysiad o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth yn cyflawni trosedd os yw’r person, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio â’r hysbysiad, yn darparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.
4
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.