RHAN 7CYFFREDINOL

Pwerau i wneud gwybodaeth am fuddiannau mewn tir yn ofynnol

199Gwybodaeth am fuddiannau yn nhir y Goron

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i fuddiant yn nhir y Goron nad yw’n fuddiant preifat.

(2)

Nid yw adran 197 yn gymwys i fuddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(3)

Ond caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi awdurdod perthnasol i arfer swyddogaeth a grybwyllir yn adran 197(2)(a) neu (b), ofyn i awdurdod priodol y Goron gadarnhau’n ysgrifenedig—

(a)

natur buddiant yr awdurdod yn y tir;

(b)

enw a chyfeiriad unrhyw berson arall sy’n wybyddus i’r awdurdod fel rhywun y mae ganddo fuddiant yn y tir.

(4)

Rhaid i awdurdod priodol y Goron gydymffurfio â chais o dan is-adran (3) ac eithrio i’r graddau—

(a)

nad yw’r wybodaeth y gofynnir amdani o fewn gwybodaeth yr awdurdod, neu

(b)

y bydd gwneud hynny yn datgelu gwybodaeth—

(i)

am ddiogelwch gwladol, neu

(ii)

am y mesurau sydd wedi eu cymryd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu eiddo arall.