RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL
I12Ystyr “heneb” a “safle heneb”
1
Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb” yw—
a
unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith (pa un ai uwchben wyneb y tir neu o dan wyneb y tir) ac unrhyw ogof neu unrhyw gloddiad;
b
safle olion unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith neu safle olion unrhyw ogof neu gloddiad;
c
safle unrhyw gerbyd, unrhyw lestr, unrhyw gerbyd awyr neu unrhyw strwythur symudol arall, neu ran o wrthrych o’r fath, nad yw’n waith, nac yn ffurfio rhan o unrhyw waith, sy’n heneb o fewn paragraff (a);
d
safle olion unrhyw wrthrych neu unrhyw ran o wrthrych a grybwyllir ym mharagraff (c);
e
safle unrhyw beth, neu unrhyw grŵp o bethau, sy’n dystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol (ac eithrio safle sy’n dod o fewn paragraff (b), (c) neu (d)).
2
At ddibenion is-adran (1) mae unrhyw beiriannau sydd wedi eu gosod yn sownd wrth heneb i’w trin fel pe baent yn rhan o’r heneb os na ellid eu datgysylltu heb eu datgymalu.
3
Nid yw is-adran (1)(a) yn gymwys i unrhyw adeilad crefyddol sy’n cael ei ddefnyddio am y tro at ddibenion crefyddol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
4
Nid yw is-adrannau (1)(c) a (d) yn gymwys—
a
i safle unrhyw wrthrych neu ei olion oni bai bod lleoliad y gwrthrych hwnnw neu ei olion yn y safle penodol hwnnw yn fater o ddiddordeb i’r cyhoedd;
b
i safle unrhyw lestr neu ei olion sy’n cael ei warchod gan orchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973 (p. 33) sy’n dynodi ardal o gwmpas y safle yn ardal gyfyngedig.
5
At ddibenion y Ddeddf hon mae safle heneb yn cynnwys nid yn unig y tir y mae ynddo, arno neu odano ond hefyd unrhyw dir sy’n rhan o’r tir hwnnw neu sy’n cydffinio â’r tir hwnnw y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wrth arfer mewn perthynas â’r heneb honno unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau hwy neu o’i swyddogaethau ef o dan y Rhan hon, ei fod yn hanfodol er mwyn cynnal a diogelu’r heneb.
6
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at heneb yn cynnwys—
a
safle’r heneb o dan sylw,
b
grŵp o henebion, ac
c
unrhyw ran o heneb neu grŵp o henebion.
7
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at safle heneb—
a
yn gyfeiriadau at yr heneb ei hun pan fo’n safle, a
b
mewn unrhyw achos arall yn cynnwys yr heneb ei hun.
8
Yn yr adran hon mae “olion” yn cynnwys unrhyw arlliw neu unrhyw arwydd o fodolaeth flaenorol y peth o dan sylw.