RHAN 7CYFFREDINOL

Cyflwyno dogfennau

I1205Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill: cyffredinol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad neu ddogfen arall gael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i berson neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu “rhoi” neu unrhyw derm arall).

2

Caniateir cyflwyno’r ddogfen i’r person yn unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—

a

drwy ei rhoi â llaw i’r person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

b

drwy ei gadael ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;

c

drwy ei hanfon drwy’r post mewn llythyr wedi ei ragdalu—

i

wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu

ii

os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio i’r person yn y cyfeiriad hwnnw;

d

os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (3).

3

Yr amodau yw—

a

bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gyrchu’r ddogfen,

b

bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

c

bod y ddogfen yn gallu cael ei defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.

4

Pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno dogfen i berson a bod y ddogfen yn dod i law’r person y tu allan i oriau busnes y person, mae’r ddogfen i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflwyno ar y diwrnod gwaith nesaf.

5

Gweler adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) am ddarpariaeth ychwanegol ynghylch y dulliau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gyflwyno dogfennau.